in

Tu hwnt i brynu mewn panig

Adolygwyd y dudalen ar 15 Ebrill 2020

Ar hyn o bryd, gall sefyllfa’r coronafeirws deimlo fel ein bod yn sefyll mewn twnnel hir a thywyll. Mae hyn yn straen ac yn frawychus. Pan fyddwn yn gallu gweld y diwedd, bydd yn teimlo’n llawer haws ei reoli a byddwn yn fwy optimistaidd.  

Ond sut ydym yn ymateb mewn amseroedd sy’n teimlo’n anobeithiol? Un ymateb cyffredin yw “prynu mewn panig”.

Nid wyf yma i ddarlithio ar yr hyn sy’n angenrheidiol ar gyfer eich cartref. Nid wyf ychwaith yn awgrymu bod prynu mewn panig yn hunanol nac y gas.  Yn hytrach, canlyniad ysfa seicolegol bwerus ydyw yn bennaf, ac mae’n ymateb arferol i drallod.

Ond mae ymatal rhag yr ysfa hon i brynu mwy na’r hyn sy’n angenrheidiol fel arfer yn bwysig hefyd, am resymau y byddaf yn eu trafod isod.  

Yn gyntaf, beth am i ni ddeall pam yr ydym yn teimlo’r ysfa i lenwi ein basgedi a’n trolïau â phasta, papur toiled, llysiau tun ac ati. 

Pam ydym yn prynu mewn panig?

1) Mae’r sefyllfa coronafeirws yn teimlo allan o reolaeth yn llwyr a bydd llawer o bobl yn teimlo ei fod yn mynd â’r rheolaeth sydd ganddynt dros eu bywydau eu hunain.

Gall hyn deimlo’n frawychus ac annioddefol. Efallai bod prynu mewn panig yn gwneud i ni deimlo ein bod wedi adennill rhyw fath o reolaeth. Mae fel bod rhan ohonom yn teimlo fel hyn: “Alla i ddim rheoli’r pandemig, ond fe alla i reoli faint o bethau sydd gennyf yn y tŷ.”

2) Efallai y byddwn yn teimlo, yn wyneb sefyllfa mor ddramatig, bod yn rhaid i ni hefyd weithredu’n ddramatig os ydym am ymdopi.  

Efallai nad yw golchi ein dwylo ac aros gartref yn teimlo’n ddigon dramatig ar eu pennau eu hunain. Felly, unwaith eto, efallai y byddwn yn siopa mewn ffyrdd dramatig, gan wario a phrynu llawer mwy na’r arfer.

3) Fel bodau dynol, weithiau mae gennym feddylfryd torf, gyda phawb yn teimlo’r pwysau i wneud yr hyn mae pawb arall yn ei wneud.

Os ydych wedi gwylio praidd o ddefaid erioed, fe fyddwch yn gwybod pan fydd un yn symud bydd y lleill yn dilyn fel pe baent wedi eu clymu â’i gilydd yn anweladwy. Ac felly y mae hi gyda’n siopa ni.

4) Osgoi colled – ein tueddiad cyffredinol, fel bodau dynol, i ofalu mwy am osgoi colledion nag am gael enillion cyfartal.

Yn y siopau, y cyfieithiad o hyn yw: “Mae’n well prynu papur tŷ bach ychwanegol rhag ofn, yn hytrach na bod heb ddim yn y dyfodol.”

O roi’r pedwar grym hyn â’i gilydd mae’n glir bod ysfeydd seicolegol pwerus yn ein gwthio i gelcio rhai pethau – grymoedd sy’n achosi i lawer ohonom brynu mewn panig.

Ond wrth i lywodraethau gymryd camau cynyddol galed mewn ymateb i’r pandemig, mae’n dod yn fwy pwysig i ni gofio ein cyd fodau dynol, sydd oll angen yr un pethau â ni.  

Felly i, ymatal rhag yr ysfa arferol hon, gallwn ddilyn rhai awgrymiadau a thriciau.

Sut i ymatal rhag prynu mewn panig

1) Os cawn ein temtio i ymuno â’r prynu mewn panig, gallwn gyfyngu ein hunain i un eitem ychwanegol y person bob tro rydym yn siopa.

Gellid gwneud hyn fel teulu hyd yn oed, lle mae’r prif siopwr yn cael rhestr o un eitem ychwanegol gan bob aelod o’r teulu. Yn y pen draw, efallai y byddwn yn stopio gwneud hyn yn gyfan gwbl.  

2) Os ydym yn teimlo straen sylweddol eisoes, efallai y byddai’n well gohirio’r siopa tan yn hwyrach.

Gallai ymarfer technegau ymlacio neu wneud ymarferiadau anadlu cyn mynd allan, hefyd ein helpu rhag siopa gyda’n lefelau straen ar eu huchaf.

3) Nid “sut ydw i am oroesi?” ddylem ofyn i ni’n hunain ond “sut allwn ddod drwy hyn gyda’n gilydd?”.

Gall gofyn rhai o’r cwestiynau hyn i ni’n hunain wrth edrych ar silffoedd yr archfarchnad, ein helpu i oresgyn ein hysfa i brynu mewn panig, ac yn hytrach gofleidio’r “ni” mwy, sy’n hanfodol ar adegau fel hyn.

Mae lledaeniad eang y Coronafeirws yn golygu y bydd yn rhaid i lawer o’n cyd-ddinasyddion sy’n fregus – yn ogystal â gweithwyr gofal iechyd – barhau i fynd i archfarchnadoedd a siopau bwyd, i sicrhau fod ganddynt y pethau hanfodol.  

Gain confidence - Get straighter teeth with Smilelove

Bydd sicrhau ein bod yn helpu i adael digon i bawb arall hefyd yn golygu ein bod yn weithredol wrth warchod ein lles ar y cyd.  

Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Loading…

0

Comments

0 comments

Search and buy domains from Namecheap

Leadership during the Coronavirus outbreak

Why kindness is the theme for mental health awareness week 2020